Mae’r Cymraeg yn dod yn fuan – ymddiheuriadau!

Mae gweddi yn y Nos yn ffordd syml o gloi’r diwrnod cyn cysgu. Yn y weddi hon mae lle i fyfyrio am y dydd a aeth heibio ac am bopeth a ddigwyddodd. Er ei bod yn bwysig cofio’r pethau hynny y dylem geisio maddeuant amdanynt, mae’n bwysig hefyd cofio gerbron Duw y mwynhad, y syndod a munudau pleserus y dydd. Bydd modd wedyn dewis un funud dda, neu ddigwyddiad yn y dydd, i ddiolch i Dduw amdano. Wrth gloi, ceisiwn bresenoldeb Duw wrth i ni gysgu, ac erfyniwn arno’i fod yn bresennol yn y dydd sydd i ddod.

Gweddi agoriadol

Dyro i mi, O dduw, noson dawel o orffwys a llonyddwch.
Amen.

‘Wrth ddychwelyd a bod yn dawel y byddwch gadwedig;
Wrth lonyddu a bod yn hyderus y byddwch gadarn.’

Cyfnod i fyfyrio’n dawel am y dydd sy’n diweddu

Am bopeth fu’n dda ac yn rhyfeddol y dydd hwn, diolch i ti.
Am bopeth a achosodd boen neu bryder i eraill y dydd hwn, maddau i mi.
Gwylia dros bawb rwy’n adnabod ac sy’n annwyl i mi

Yn uchel eu sain mewn cymanfa berffaith,
canmolwn uwchlaw naw rheng yr angylion
y Drindod aruchel bendigaid.’

Y Salm 4:1, 3-4, 7-8

Ateb fi pan alwaf, O Dduw fy nghyfiawnder; bydd drugarog wrthyf, a gwrando fy ngweddi.
Rhoddais fwy o lawenydd yn fy nghalon;
Yn awr gorweddaf mewn heddwch a chsygu.
Oherwydd ti yn unig, Arglwydd, sy’n peri i mi fyw’n ddiogel.

Y Darlleniad Jeremeia 14:9

Ond eto yr wyt yn ein mysg ni, Arglwydd; dy enw di a roddwyd arnom; paid â’n gadael.

Nunc Dimittis

Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd yn ôl dy air.
Canys fy llygaid a welodd dy iachawdwriaeth.
Yr hon a baratoaist gerbron wyneb yr holl bobl.
I fod yn oleuni i oleuo’r cenhedloedd; ac yn ogoniant i’th bobl Israel.
Amen.

Y Gweddi’r Arglwydd

Gweddi gloi

Bydd gyda mi drwy’r noson hon;
alltudua’r cysgodion gyda goleuni dy gariad;
gwylia dros bawb sydd mewn angen;
a dwyn ni yn lân i’r dydd newydd.
Erfyniaf hyn yn enw Iesu.
Amen.

Night Prayer is a simple way of closing the day before sleep. Within this prayer there is space to reflect upon the day that has just passed and all that has taken place. Whilst it is important to remember those things for which we need to seek forgiveness, it is also important to remember before God the joys, the surprises and the good moments of the day. Choose one good moment, and give thanks to God for it. At the end we seek God’s presence as we sleep, and seek the Spirit’s presence alongside us during the coming day.

Opening prayer

Grant to me, O God, a night of quiet rest and peace.
Amen.

‘In returning and rest you shall be saved; in quietness and in trust shall be your strength.’

A time of quiet reflection upon the day

For all that has been good and wonderful this day, thank you.
For all that has caused others hurt or worry this day, forgive me.
Watch over all those whom I know and love.

‘Clear and high in the perfect assembly,
let us praise above the nine orders of angels
the sublime and blessed Trinity.‘

The Psalm 4:1, 3-4, 7-8

Answer me when I call upon you: look with mercy upon me and hear my prayer.
I know that you show me kindness: I am in awe, and try not to sin.
I will speak from my heart, and be still: for you have put gladness in my heart.
In peace I can lie down to sleep: for you, O God, make me dwell in safety.

The Reading Jeremiah 14:9

You, Lord, are in the midst of us and we are called by your name; leave us not, O Lord our God.

Nunc Dimittis

O God, you have set me free: and, as you promised, brought me peace.
With my eyes and inner understanding I have witnessed your salvation.
Your salvation is for all creation: and will be a light to guide all people.
In this light you are revealed and you pour your glory upon us all.
Amen.

The Lord’s Prayer

Closing Prayer

Be with me through this night;
keep the shadows at bay with the light of your love;
keep watch over all who are in need;
and bring us refreshed into the new day.
In the name of Jesus I pray.
Amen.