Gwrando – Cymraeg
Listen – English

Dydd Mawrth

Tyfu ac ymwybyddiaeth yn ôl troed Santes Melangell

Gweddi agoriadol

O Dduw, wrth i mi gofio heddiw fywyd Santes Melangell, boed i mi weld yn glir harddwch y greadigaeth y dydd hwn.
Helpa fi i ymglywed yn ddyfnach â’th bresenoldeb di yn symud drwof, a thrwy’r byd.
Helpa fi i beidio â bod yn ddall i anghenion y rhai o’m cwmpas ac i geisio, er lles y byd, y tangnefedd hwnnw sydd uwchlaw pob deall.
Boed i’m ffydd ddyfnhau trwy dy Ysbryd di y dydd hwn, fel y plannaf hadau dy gariad ble bynnaf yr af.
Amen.

Y dydd hwn, rwyf yn byw yng ngras Duw

Mewn distawrwydd a gweddi, myfyriwch a dygywch at Duw:

  • bopeth sy’n hysbys, a gynlluniwyd ac a drefnwyd ar gyfer y dydd heddiw.
  • eich angen am help i baratoi am yr annisgwyl
  • eich angen am ddoethinneb i fyfyrio ynghylch popeth a ddigwyddodd eisoes, a phopeth sydd eto i ddod.
  • eich ymrwymiad i weithio a dysgu fel rhan o ddilyn Llwybr Deiniol.

Gofynnwch am i ras Duw fod gyda chi bob amser ac ym mhob lle.

Dechrau o’r newydd gyda Duw

O Dduw, rwy’n clywed dy alwad i edifarhau.
Clyw yn awr y pethau hynny y ceisiaf faddeuant amdanynt…
Rwy’n credu ac yn ymddiried yn dy faddeuant cariadus.
Rwy’n gwybod pan fyddaf yn wir yn cyfaddef ac yn edifarhau, y bydd i ti dywallt bendithion dy ras maddeuol arnaf
Amen.

‘Ar fryn a phant, ar ynysoedd y môr, pa lwybr bynnag a gymeri, nid oes ymguddio rhag Grist’:
Diolch fo i Dduw. Amen.

Salm a Darlleniad y Beibl
(Cofiwch saib y recordiad yma)

Ymbiliau
Gweddïwn dros anghenion ein heglwys, y byd a’r gymuned leol; dros bawb sy’n wael ac yn agos at angau; a chan gofio’r sawl fu farw a’r rhai sy’n eu caru ac yn galaru ar eu holau.

Heddiw, gweddïwn yn arbennig dros bob man yn y byd sydd angen iachad, heddwch, cyfiawnder a chydraddoldeb, a thros rannu’n gyfartal adnoddau’r ddaear.

Terfynir yr ymbiliau gyda Gweddi’r Arglwydd, ac yna
Gweddi Llwybr Deiniol:

Dduw gras, gelwaist arnaf i ddilyn yn ôl traed y disgyblion cynnar a’r seintiau, 
i fyw bywyd mewn gwir gydbwysedd daioni, i weddïo bob dydd a rhannu yn fy ffordd fy hun
dy gariad di dros yr holl bobl, yr holl greadigaeth.
Trwy dy gariad a’th ras, a thrwy esiampl Deiniol Sant, 
helpa i fod yn ffyddlon mewn gweddi, yn fy ngwaith, acbwrthbor̫wyso, yn yr oriau prysur a’r mannau tawel, 
fel y gallaf dy addoli, fel y bydd i’th Eglwys dyfu, ac fel y bydd i’th gariad gofleidio ac iachau ein byd toredig. 
Amen.

Gweddi gloi

Fe drig y blaidd gyda’r oen. Bydd y fuwch a’r arth yn gyfeillion a’u llydnod yn cydorwedd. Bydd y plentyn sugno yn chwarae wrth dwll yr asb. Ni wnânt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd; fel y lleinw’r dyfroedd y môr i’w ymylon, felly y llenwir y ddaear â gwybodaeth yr Arglwydd.
Eseia 11:6-9

Dduw yr holl greadigaeth, ar fy nhaith trwy’r dydd hwn gwna fi yn effro yn wastad
i’m cyfrifoldeb i bopeth a welaf o’m cwmpas,
i weithredu gyda gofal ac mewn modd
fydd yn cynnal yr amgylchedd i’r cenedlaethau i ddod.
Yn yr holl liwiau a’r rhyfeddodau,
y bobl a’r gwaith, ym mhopeth a welaf ac a wnaf heddiw
gorfoleddaf yn dy gariad di yn llunio’r byd hwn
a’r holl bobloedd sy’n trigo ynddo.
Amen.

Tuesday

Growing and awareness in St Melangell’s footsteps

Opening prayer

O God, as I remember today the lifIe of St. Melangell, may I really see the beauty of creation.
Help me to deepen my awareness of your presence moving through me, and through the world.
Help me not to be blind to the needs of those around me, but to seek for this world the peace that passes all understanding.
May my faith deepen through your Spirit this day so that I may sow seeds of your love wherever I go.
Amen.

This day I live in the grace of God

In quietness and prayer bring to God:

  • all that is known, planned and arranged for this day.
  • your need for help to be prepared
    for the unexpected
  • your need for wisdom to reflect upon all that has already taken place, and all that still lies ahead
  • your commitment to growing and awareness as part of following St. Deiniol’s Way in St. Melangell’s footsteps.

Ask for the grace of God to be with you at all times and in places.

Beginning anew with God

O God, I hear your call to repent. 
Hear now those things for which I seek forgiveness…
I believe and trust in your loving forgiveness.
I know that when I truly confess and repent, you will pour the blessing of your forgiving grace upon me.
Amen.

‘On the hill and in the valley, on the islands of the sea, whichever path you take, you shall not hide from blessed Christ’:
Thanks be to God. Amen

Psalm and Bible Reading
(Remember to pause the recording here)

Prayers of intercession
Bring before God the needs within our church, the world and the local community; pray for those who are ill and those close to death; remember those who have died and those who loved and mourn them.

Today in particular, pray for the places in the world that are in need of healing and peace, justice and equity; and for a true sharing of the earth’s resources.

Conclude the prayers of intercession with the Lord’s Prayer, followed by the
St Deiniol’s Way prayer:

God of grace, you have called me to follow in the steps of the early disciples and saints, 
to live a life in true balance of wellbeing, to pray each day and share in my own way your love for all people, all creation.
By your love and grace, and through the example of St Deiniol, 
help me to be faithful in my prayer, in my work, and in my times of rest, in the busy hours and in the quiet spaces,
so that I may worship you, so that your Church may grow, and so that your love may embrace and heal our broken world.
Amen.

Closing Prayer

The wolf shall live with the lamb.

The cow and the bear shall graze, their young shall lie down together. The nursing child shall play over the hole of the asp. They will not hurt or destroy on all my holy mountain; for the earth will be full of the knowledge of the Lord, as the waters cover the sea.
Isaiah 11:6-9

God of all creation, as I journey through this day may I always be aware
of my responsibility to all that I see around me; may I behave with care and in such a way
as to sustain the environment for the future.
Faced with the colours and the wonders,
the people and the work of all I see and do this day,
I will rejoice at the love with which you have shaped this world and all who dwell within it. Amen.