Dydd Mercher
Rhannu ein ffydd yn ôl troed Beuno Sant
Gweddi agoriadol
O Dduw, fe gofiaf heddiw fywyd Beuno Sant, boed i’m calon deimlo dy gariad.
Rho i mi ddoethineb a dewrder, i fyw fy ffydd yn mhob ystyr y dydd hwn.
Hepla fi ddod o hyd i ffyrdd o rannu fy ffydd ynot pan fyddaf yn dawel ac yng nghanol prysurdeb, pan fyddaf yn sgwrsio ac wrth fy ngwaith.
Yn a thrwy dy gariad a’th Enw Sanctaidd.
Amen.
Y dydd hwn, rwyf yn byw yng ngras Duw
Mewn distawrwydd a gweddi, myfyriwch a dygywch at Duw:
- bopeth sy’n hysbys, a gynlluniwyd ac a drefnwyd ar gyfer y dydd heddiw.
- eich angen am help i baratoi am yr annisgwyl
- eich angen am ddoethinneb i fyfyrio ynghylch popeth a ddigwyddodd eisoes, a phopeth sydd eto i ddod.
- eich ymrwymiad i weithio a dysgu fel rhan o ddilyn Llwybr Deiniol yn ôl troed Beuno Sant.
Gofynnwch am i ras Duw fod gyda chi bob amser ac ym mhob lle.
Dechrau o’r newydd gyda Duw
O Dduw, rwy’n clywed dy alwad i edifarhau.
Clyw yn awr y pethau hynny y ceisiaf faddeuant amdanynt…
Rwy’n credu ac yn ymddiried yn dy faddeuant cariadus.
Rwy’n gwybod pan fyddaf yn wir yn cyfaddef ac yn edifarhau, y bydd i ti dywallt bendithion dy ras maddeuol arnaf.
Amen.
‘Amen, Amen; clod am byth. Amen. Haleliwia i’r Meseia sy’n maddau fyth. Amen’:
Diolch fo i Dduw. Amen.
Salm a Darlleniad y Beibl
(Cofiwch saib y recordiad yma)
Ymbiliau
Gweddïwn dros anghenion ein heglwys, y byd a’r gymuned leol; dros bawb sy’n wael ac yn agos at angau; a chan gofio’r sawl fu farw a’r rhai sy’n eu caru ac yn galaru ar eu holau.
Heddiw, Gweddïwn yn arbennig dros y rhai sy’n cael eu herlid am eu ffydd, y rhai sy’n ofni sôn wrth eraill am gariad Duw, a thros y sawl sy’n dysgu ac yn pregethu’r ffydd Gristnogol.
Terfynir yr ymbiliau gyda Gweddi’r Arglwydd, ac yna
Gweddi Llwybr Deiniol:
Dduw gras, gelwaist arnaf i ddilyn yn ôl traed y disgyblion cynnar a’r seintiau,
i fyw bywyd mewn gwir gydbwysedd daioni, i weddïo bob dydd a rhannu yn fy ffordd fy hun
dy gariad di dros yr holl bobl, yr holl greadigaeth.
Trwy dy gariad a’th ras, a thrwy esiampl Deiniol Sant,
helpa i fod yn ffyddlon mewn gweddi, yn fy ngwaith, acbwrthbor̫wyso, yn yr oriau prysur a’r mannau tawel,
fel y gallaf dy addoli, fel y bydd i’th Eglwys dyfu, ac fel y bydd i’th gariad gofleidio ac iachau ein byd toredig.
Amen.
Gweddi gloi
Am hynny, yr wyf yn ymbil arnoch, frodyr a chwiroydd, ar sail tosturiaethau Duw, i’ch offrymu eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw. Felly y rhoddwch iddo addoliad ysbrydol. A pheidiwch â chydymffurfio â’r byd hwn, ond gadewch i Dduw eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, a’ch galluogi i ganfod beth yw ei ewyllys, beth sy’n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.
Rhufeiniaid 12:1-2
Dduw pob dim, trawsnewidia fi trwy dy bresenoldeb y dydd hwn – i rannu fy ffydd yn y byd o’m cwmpas.
Adnewydda fi gorff a meddwl trwy dy gariad y dydd hwn –
I geisio’r hyn sy’n dda a derbyniol.
Yn dy ras, helPa fi edrych ar y byd –
Gyda llygaid Crist, a chyda chalon ffydd.
Yn enw Duw, fy nghraig a’m prynwr.
Amen.
Wednesday
Sharing our faith in St. Beuno’s footsteps
Opening prayer
O God as I remember today the life of St. Beuno, may my heart feel your love.
Grant to me wisdom and courage truly to live out my faith this day.
Help me to find ways of sharing my faith in you in times of quietness and busyness,
and in times of conversation and action.
I ask this in and through your Holy Name.
Amen.
This day I live in the grace of God
In quietness and prayer bring to God:
- all that is known, planned and arranged for this day.
- your need for help to be prepared
for the unexpected - your need for wisdom to reflect upon all that has already taken place, and all that still lies ahead
- your commitment to Sharing your faith as part of following St Deiniol’s Way in St. Beuno’s footsteps.
Ask for the grace of God to be with you at all times and in places.
Beginning anew with God
O God, I hear your call to repent.
Hear now those things for which I seek forgiveness…
I believe and trust in your loving forgiveness.
I know that when I truly confess and repent, you will pour the blessing of your forgiving grace upon me.
Amen.
‘Amen, Amen; praise be for ever, Amen. Alleluia to the Messiah who always forgives. Amen’:
Thanks be to God. Amen
Psalm and Bible Reading
(Remember to pause the recording here)
Prayers of intercession
Bring before God the needs within our church, the world and the local community; pray for those who are ill and those close to death; remember those who have died and those who loved and mourn them.
Today in particular, we pray for those who are persecuted for their faith, those who are afraid to speak about the love of God to others, and all who teach and preach.
Conclude the prayers of intercession with the Lord’s Prayer, followed by the
St Deiniol’s Way prayer:
God of grace, you have called me to follow in the steps of the early disciples and saints,
to live a life in true balance of wellbeing, to pray each day and share in my own way your love for all people, all creation.
By your love and grace, and through the example of St Deiniol,
help me to be faithful in my prayer, in my work, and in my times of rest, in the busy hours and in the quiet spaces,
so that I may worship you, so that your Church may grow, and so that your love may embrace and heal our broken world.
Amen.
Closing Prayer
I appeal to you therefore, brothers and sisters, by the mercies of God, to present your bodies as a living sacrifice, holy and acceptable to God, which is your spiritual worship. Do not be conformed to this world, but be transformed by the renewing of your minds, so that you may discern what is the will of God – what is good and acceptable and perfect.
Romans 12:1-2
God of all, transform me by your presence this day to share my faith in the world around me.
Renew me in body and mind by your love this day to seek out what is good and acceptable.
In your grace, help me to look upon the world with the eyes of Christ, and the heart of faith.
I ask this in the name God, my rock, and my redeemer.
Amen.